Yr RNLI yn lansio gwasanaeth achub newydd yn y gogledd
- Published
Mae gwasanaeth achub bywyd newydd gan yr RNLI yn cael ei lansio yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Gan weithio gyda Cyngor Sir Ddinbych, bydd achubwyr bywyd yn gwarchod traethau Rhyl a Phrestatyn yn ddyddiol o 10:00-18:00.
Mae achubwyr yr RNLI wedi cynorthwyo mwy na 900 o bobl ar 32 o draethau Cymru ers 2015, ac mae'r elusen wedi ymestyn ei wasanaeth diogelwch i 39 o draethau eleni.
Mae'r safleoedd diweddara dan eu gofal yn cynnwys pedwar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar draeth y Tri Clogwyn ar benrhyn Gŵyr.
Dywedodd Peter Rooney, rheolwr achubwyr bywyd y gogledd: "Mae achubwyr bywyd yr RNLI bellach wedi cwblhau eu holl hyfforddiant ac yn edrych ymlaen ar gyfer cychwyn y gwasanaeth diogelwch newydd."