Ceidwadwyr Cymreig: Colli tir achos 'UKIP ac Ewrop'
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth diffyg undod y Ceidwadwyr ar Ewrop, heriau i Lywodraeth y DU a UKIP gyfrannu at y Torïaid yn colli tir yn etholiadau'r Cynulliad.
Dyna farn arweinydd y blaid yng Nghymru wrth egluro pam ei fod yn meddwl bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi syrthio yn ôl i'r trydydd safle ym Mae Caerdydd.
Yn ôl Andrew RT Davies, bydd angen i'r blaid gryfhau ei brand Cymreig, gan ychwanegu: "Mae'n rhaid torchi llewys nawr."
Fe gollodd y Torïaid dair sedd yn yr etholiad fis Mai gan fynd lawr i 11.
Plaid Cymru yw'r brif wrthblaid erbyn hyn ar ôl cipio un sedd ychwanegol, gyda chyfanswm o 12.
Yn ysgrifennu yn y Sunday Times, fe restrodd Mr Davies dri ffactor a chwaraeodd eu rhan drwy beidio rhoi'r blaid mewn llywodraeth.
Un o'r rhain oedd "dyfodiad UKIP", plaid a gipiodd saith sedd yn y Cynulliad am y tro cyntaf.
'Heriau cyhoeddus'
Dywedodd Mr Davies bod eu hymgeiswyr cyn yr etholiad yn gallu trafod "materion sydd heb eu datganoli, fel mewnfudo, refferendwm yr UE, a oedd heb os yn canu cloch gyda nifer o bleidleiswyr a aeth i'w gwobrwyo gyda'i hail bleidlais ar y papur pleidleisio".
Dywedodd Mr Davies fis Chwefror y byddai'n pleidleisio dros Brydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd: "Mae eraill wedi cyfeirio at effaith y refferendwm ar undod y blaid. Gyda chymaint o ffigyrau blaenllaw yn cefnogi'r ddwy ochr, mae'n rhaid meddwl pa effaith gafodd hynny ar ein neges Geidwadol."
Roedd materion datganoledig yng nghysgod "nifer o heriau cyhoeddus oedd yn wynebu Llywodraeth y DU yn ystod cyfod etholiad y Cynulliad", meddai.