Rhybudd am law trwm mewn mannau

  • Cyhoeddwyd
GlawFfynhonnell y llun, AFP

Mae rhybudd tywydd wedi cael ei gyhoeddi am law trwm ar draws rhannau o dde Cymru a'r gorllewin ar gyfer dydd Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd y bydd y cawodydd yn rhai gwasgaredig gyda mellt a tharannau, cenllysg a llifogydd mewn mannau ar brydiau.

Fe allai cawodydd trymion olygu rhwng 20-25mm o law mewn cyfnod o ychydig oriau mewn rhai llefydd.

Mae Rhybudd Melyn mewn grym ar gyfer de Cymru a Cheredigion o 12:00 hyd at 21:00.

Nos Wener roedd 'na drafferthion llifogydd mewn rhannau o'r canolbarth a'r gorllewin ar ôl stormydd o law taranau.

Bu'n rhaid cau'r A40 rhwng Llanymddyfri a Phontsenni ym Mhowys am gyfnod ar ol tirlithriad, ac fe gafodd y gwasanaeth tan eu galw i sawl achos o lifogydd yn ardal Glyn-Nedd.

Roedd 'na doriadau trydan hefyd mewn rhanau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.