Cyfle i weld cynlluniau i ddatblygu harbwr

  • Cyhoeddwyd
Harbwr Cei NewyddFfynhonnell y llun, Janet Baxter

Mae cynlluniau i ddatblygu rhan o harbwr Cei Newydd yng Ngheredigion yn cael eu harddangos i'r cyhoedd.

Cafodd yr harbwr presennol a'r pier o gerrig ei godi yn 1835.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys gwelliannau i'r safle, sydd wedi ei gofnodi fel adeiledd rhestredig gradd II, a chodi glanfa newydd i gychod.

Byddai'r datblygiad yn costio tua £500,000. Ond mae rhai yn poeni y bydd y gwaith yn creu gormod o aflonyddwch a dyw eraill ddim am weld newid y pier.

Dywed y rhai sydd o blaid y newid fod y datblygiad yn bwysig o ran twristiaeth a gwella mynediad i bobl anabl. Byddai hefyd yn ei gwneud yn fwy hwylus i gychod sy'n cynnig tripiau i'r môr ar gyfer gweld dolffiniaid.

Dywedodd Steve Hartley, cynghorydd tre fod twristiaeth yn bwysig: "Mae'r twristiaid sy'n dod i weld y dolffiniaid yn cyfrannu tua £4.5m y flwyddyn i'r economi leol.

"Mae'n hynod o bwysig ein bod yn edrych ar ôl y cwsmeriaid sy'n dod i weld y bywyd gwyllt ac yn defnyddio'r cychod. Mae'r gallu i fynd ar ac oddi ar y cychod yn ddiogel yn angenrheidiol."