Dyfodol ansicr i gwmni bysiau yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Silcox coachesFfynhonnell y llun, Google

Mae BBC Cymru yn deall fod cwmni bysiau o Sir Benfro, sy'n cyflogi tua 100 o bobl, yn chwilio am brynwr ar gyfer y busnes.

Mae gan gwmni Silcox safleoedd yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro.

Yn ogystal â chynnig tripiau i bobl ymweld â gwahanol lefydd mae gan y cwmni gytundeb gyda Chyngor Penfro i gludo plant ysgol.

Mae'r cwmni wedi anfon llythyrau at eu staff yn amlinellu'r sefyllfa.

Deellir bod cwsmeriaid sydd wedi holi am deithiau sydd eisoes wedi eu harchebu wedi cael gwybod fod y cwmni wedi gwneud cais i gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, a'u bod yn chwilio am brynwr.

Gwnaed cais i'r cwmni am sylw pellach.

Cafodd Silcox ei sefydlu yn 1882, ac mae wedi cynnal gwasanaethau bws yn Sir Benfro ers 1932.

Dywedodd Cyngor Penfro eu bod yn aros i glywed sut y byddai gwerthu'r cwmni yn effeithio ar gludiant plant ysgol.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn ymwybodol o'r posibilrwydd o ailstrwythuro'r cwmni a byddwn yn cydweithio gyda'r bobl sydd yng nghlwm â'r datblygiadau.

"Rydym yn rhagweld y bydd y sefyllfa yn fwy clir yr wythnos nesa.

"Ar hyn o bryd mae cwmni Silcox yn parhau yn weithredol a byddwn yn parhau i'w talu am y gwaith sy'n cael ei wneud yn ôl gofynion y cytundeb."