Tagfeydd M4: Dwy lon i gyfeiriad ail bont Hafren wedi ailagor
- Cyhoeddwyd

Tagfeydd ger Magwyr, Sir Fynwy
Bu yna dagfeydd o 23 milltir ar yr M4 yn Sir Fynwy yn dilyn gwrthdrawiad fore Sadwrn.
Dywed Heddlu Gwent fod y ddwy lon oedd ar gau wedi ailagor erbyn hyn a bod y sefyllfa wedi gwella.
Roedd y ffordd yn brysur gyda nifer o bobl yn dechrau eu gwyliau Gŵyl y Banc pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Yn ôl llefarydd digwyddodd y gwrthdrawiad wrth i gerbyd oedd yn tywys cerbyd arall daro yn erbyn y rhwystrau sy'n gwahanu'r lon ddwyreiniol a'r lon orllewinol rhwng cyffordd 23 a chyffordd 22 ychydig cyn 10:30.
Cafodd dwy lon i gyfeiriad ail bont Hafren eu cau am gyfnod.
Ar un adeg roedd y tagfeydd yn ymestyn yn ôl i gyffordd 26 a thwneli Bryn-glas.