Gwrthdrawiad: Cludo dau i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A489 yn ardal Machynlleth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Abergwydol tua 14:30 a chafodd dau o griwiau tân eu hanfon i'r digwyddiad, un o Fachynlleth a'r llall o Aberystwyth.
Yn gynharach yn y dydd bu gwrthdrawiad arall ym Mhantperthog, ger Machynlleth.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod y gwrthdrawiad wedi achosi problemau traffig ond nad oedd mwy o fanylion ar gael.