Euro 2016: Bale yn canolbwyntio

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gareth Bale yn dathlu ar ôl ei gic ô'r smotyn nos Sadwrn

Mae prif sgoriwr Cymru Gareth Bale wedi dweud ei fod yn canolbwyntio yn llwyr nawr ar Euro 2016.

Cred y Cymro y gall y tîm fynd yr "holl ffordd".

Roedd saib o ryddhad gan gefnogwyr Cymru nos Sadwrn wrth iddynt glywed na chafodd yr ymosodwr unrhyw anaf yn ystod ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop rhwng Real Madrid ac Athletico Madrid.

Real oedd yn fuddugol ar ôl ciciau o'r smotyn, Bale yn un o'r sgorwyr.

Oherwydd ei fod yn chware yn y ffeinal roedd Bale wedi methu a bod yn rhan o garfan hyfforddi Cymru ym Mhortiwgal wrth i'r chwaraewyr baratoi ar gyfer Euro 2016.

Yn y cyfamser, mae'r corff cyfamodi ACAS wedi cyhoeddi canllawiau i geisio osgoi gwrthdaro pe bai cefnogwyr am wylio eu tîm yn ystod y bencampwriaeth. Fe fydd Cymru yn chwarae Lloegr yn Lens am 15:00 ar 16 Fehefin.

Yn ôl ACAS fe ddylai cwmnïau fod â chynlluniau penodol ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn ystod oriau'r gêm.

Mae'r corff cyfamodi yn dweud y dylai'r cyflogwyr drafod gyda'r gweithwyr ynglŷn ag oriau hyblyg tra bod y gystadleuaeth ymlaen.