Lloegr 27-13 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ben YoungsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Ben Youngs

Fe wnaeth Cymru gael cweir yn Twickenham yn eu gêm olaf cyn dechrau ar eu taith i Seland Newydd.

Llwyddodd Lloegr i groesi'r llinell bump gwaith gan guro Cymru o 27-13.

Sgoriodd Rob Evans yn gynnar i Gymru ond yna fe groesodd Luther Burrell ac Anthony Watson i sicrhau sgôr o 13-10 i Loegr ar yr egwyl.

Fe wnaeth maswr Cymru Dam Biggar wrthod tri chynnig ar gic cosb - o bosib rhywbeth na fyddai wedi digwydd pe na bai'r gêm yn un 'gyfeillgar'.

Yn yr ail hanner roedd Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chyflymder a chryfder Lloegr.

Fe wnaeth Ben Young ymestyn mantais Lloegr, ac fe wnaeth Jack Clifford a Marland Yarde wneud y gêm yn gwbl ddiogel.

Hon oedd gêm olaf Cymru cyn iddynt gwrdd â'r Crysau Duon yn Seland Newydd ar 11 Mehefin.