Gwobr weldio am y drydedd flwyddyn yn olynol
- Cyhoeddwyd

Mae coleg yn Sir y Fflint wedi ennill cystadleuaeth weldio genedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Daeth y model o gerbyd Brenhinol, gan Matthew Hughes, Gareth Phillips, Owen Fitzgibbon a Thomas Lavender o Goleg Cambria yn fuddugol yng nghystadleuaeth y 'Weld Off 2016'.
Fe gafodd y tîm o brentisiaid weldio gwerth £3,000 o wobrau am ennill y gystadleuaeth.
Dywedodd Julia Chippendale, rheolwr gyfarwyddwr y corff oedd yn dyfarnu'r gystadleuaeth, EAL, ei bod "yn anrhydedd wych i ennill y gystadleuaeth".