Eisteddfod yr Urdd: Ymgyrch O'r Steddfod i Syria

  • Cyhoeddwyd
Tipi
Disgrifiad o’r llun,
Tipi Syr IfanC yw'r man casglu ar gyfer yr ymgyrch

Ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint gydol yr wythnos, mae'r mudiad yn annog ymwelwyr i ddod ag ambell beth efallai na fydden nhw'n dod gyda nhw i'r maes fel arfer, er mwyn anfon nwyddau i bobl Syria.

Bwriad ymgyrch O'r Steddfod i Syria ydy llenwi cynhwysydd 40 troedfedd gyda bwyd ac adnoddau meddygol.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddar, mae tua 470,000 o bobl wedi cael eu lladd yn y brwydro hyd yma, ac oddeutu 4.8m wedi ffoi er mwyn ceisio canfod diogelwch a lloches yn rhywle arall.

Rŵan, mae pryder am y bobl sy'n dal ar ôl yn Syria. Yn ôl elusen Pobl i Bobl: "Mae'r amgylchiadau'n beryglus, gyda phrinder bwyd a chyflenwadau glanweithdra cyffredin."

Casglu ar y maes

Ychwanegodd Catrin Wager, prif weithredwr yr elusen: "Mae prisiau bwyd mewn rhai ardaloedd wedi codi'n ddychrynllyd, gyda bag un cilo o reis yn gallu costio $100. Ond yng Nghymru, mae'n bosib prynu bag un cilo mor rhad â 45 ceiniog.

"Felly, ychwanegwch gwpwl mwy o bethau i'ch rhestr siopa wythnos, neu ystyn fag o reis neu din tomato o'r cwpwrdd, a dod a nhw i'r maes lle byddent yn cychwyn ar eu siwrne o'r Steddfod i Syria."

Bydd man casglu penodol ar y maes gydol yr wythnos, sef Tipi Syr IfanC rhwng 10:00 a 17:00.

Yn ogystal â'r ymgyrch i anfon bwyd ac adnoddau meddygol i Syria, mae'r elusen hefyd yn dal i gasglu nwyddau i ffoaduriaid o Syria sydd wedi cyrraedd Ewrop.

Gall ymwelwyr ddod a sachau cysgu, dillad, esgidiau ac ati, fydd yn cael eu dosbarthu i ffoaduriaid ledled Ewrop.