Urdd: Sgwrsio cyn dathlu'r 100

  • Cyhoeddwyd
maes

Mae Prif Weithredwr yr Urdd wedi cyhoeddi ymgynghoriad cenedlaethol, cyn i'r mudiad ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed yn 2022.

Bwriad Sgwrs yr Urdd 2022, yn ôl Sioned Hughes, ydy "deall mwy am fywydau ein cynulleidfa, gan gynnwys pobl ifanc, rhieni a phlant".

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau'r wythnos hon ar faes y Steddfod, gan ganolbwyntio i ddechrau ar bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Yna, fe fydd yr Urdd yn sgwrsio gydag ysgolion, hyfforddwyr ac arweinwyr, cyn troi ei sylw at rieni a phlant ieuengach ar ddiwedd y cyfnod.

Gobaith Sioned Hughes ydy "y bydd modd cynnig math newydd o aelodaeth" i'r mudiad yn mis Medi 2017 wedi diwedd yr ymgynghoriad fis Mawrth.

Mi fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio fel sail i ddathliadau canmlwyddiant y mudiad yn 2022.

Fe ddywedodd Sioned Hughes ei bod hi'n bwysig "dathlu a gallu cynnig rhywbeth newydd yn 2022. Wrth gwrs, mae angen dathlu'r gorffennol, ond mae'n rhaid i ni edrych tuag at y dyfodol, hefyd."