Prosiect Twf: Protest ar faes Steddfod yr Urdd
- Published
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal protest ar faes Eisteddfod yr Urdd bnawn Llun, gan alw ar Lywodraeth Cymru i adfer gwasanaeth sy'n annog teuluoedd ledled Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae prosiect Twf wedi dod i ben, a Cymraeg i Blant yn ei le.
Ond yn ôl y mudiad, mae £200,000 yn llai o gyllid ar gyfer y gweithgareddau.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol i hyrwyddo'r iaith.
'Gweithgareddau perffaith'
Mae Rebecca Roberts o Brestatyn ymysg y rhieni sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y brotest, wedi iddi weld budd gwasanaeth Twf.
Fe ddywedodd Rebecca: "Fel Cymraes yn byw mewn ardal go Saesneg, roedd yn anodd i fi dod o hyd i weithgareddau cyfrwng Cymraeg.
"Dw i'n siarad Cymraeg o hyd gydag Ellie, ac mae'n bwysig i fi bod hi'n clywed y Gymraeg tu allan i'r tŷ. Doedd y cylch Ti a Fi lleol dim yn addas - gormod o blant mawr yn rhedeg o gwmpas - a dim ond unwaith bob wythnos oedd y sesiynau stori a chân dwyieithog yn y llyfrgell.
"Dechreues i fynychu'r sesiynau Twf yn fy ysgolion lleol. Roedd y gweithgareddau'n berffaith i fabi bach ac roedd yn wych i mi gael cyfle i siarad gyda mamau eraill.
"Cefais gyfle i ail-gysylltu gyda hen ffrindiau ysgol ac i wneud ffrindiau newydd.
"Cawsom gymaint o brofiadau hwyl, a wnes i wir colli'r sesiynau unwaith i fy nghyfnod mamolaeth ddod i ben! Roedd yr arweinydd yn berson mor glên a chroesawgar, ac mor dda am roi cymorth i bobl oedd yn dysgu Cymraeg. Mae'r un peth yn wir am bob sesiwn Twf fues iddo.
"Mae'n bechod mawr bod nhw wedi gorffen, o safbwynt personol ac o safbwynt ieithyddol. Mae angen mwy o wasanaethau tebyg i Twf, nid llai."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
"Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn parhau i gydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn."