Urdd: Lois Llywelyn Williams yn cipio'r Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd

Lois Llywelyn Williams, sydd yn 18 oed ac yn fyfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.
Mae gwaith buddugol Lois, oedd yn cystadlu o dan y ffugenw 'Efa', yn tynnu cymhariaeth ddifyr rhwng afal Efa a chwmni Apple.
Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Miriam Elin Jones o gylch Aberystwyth ac yn drydydd roedd Mared Llywelyn Williams, sy'n chwaer i Lois.
Roedd y beirniaid, Manon Steffan Ros a Iola Ynyr, yn gweld dylanwad amlwg 'Y Twr', Gwenlyn Parry ar y ddrama fuddugol ac yn teimlo fod Lois yn "feistr ar weithio ar ddelweddau theatrig yn gynnil gan osod sialens synhwyrol i gynulleidfa".
Mae Lois yn aelod o Aelwyd Chwilog ac yn dod o Forfa Nefyn yn Llŷn. Ers ei chyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog, mae wedi cael ei dylanwadu yn helaeth gan y byd theatr a llenyddiaeth a'i phrif ddiddordebau yw Ffrangeg, ysgrifennu creadigol a'r theatr.
'Y ddrama fwyaf aeddfed'
Dywedodd Lois: "Mi ges i fy ysgogi i ddechrau sgriptio o ddifri gan Aled Jones Williams oedd yn diwtor ar gynllun O Sgript i Lwyfan Cwmni'r Frân Wen.
"Ond hoffwn ddiolch am yr ysbrydoliaeth ydw i wedi ei gael gan fy holl athrawon yn yr ardal; Nia Plas yn Ysgol Morfa, Delyth Roberts a Bethan Mair yn y coleg ac yn arbennig i Esyllt Maelor a Mair Gruffydd am eu holl arweiniad."
Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth, "Hon oedd y ddrama fwyaf aeddfed yn y gystadleuaeth ac mae'r haenau o ystyr yn gywrain iawn. Mae yma lais hyderus fyddai'n cynnig her wirioneddol i ddau actor wrth neidio amser yn gyson."
Mae Lois yn gobeithio mynd ymlaen i astudio gradd mewn Ffrangeg ym mis Medi a pharhau i ysgrifennu a chadw ei diddordeb mewn theatr.