Negeseuon heddwch yr Urdd 'ar goll'
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r Urdd a phrosiect Cymru Dros Heddwch ymchwilio i hanes Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad, mae hi wedi dod i'r amlwg fod rhai negeseuon ar goll o'r archif yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Fe gafodd y neges ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn 1922.
Ddydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe ddechreuodd ymgyrch i geisio dod o hyd i'r negeseuon coll ynghyd a hanesion unigolion sydd ag atgofion o greu, gweld neu glywed y neges ar hyd y blynyddoedd gan gofnodi eu hatgofion hwy ar systemau'r Llyfrgell ar y maes.
Yn ystod y dydd, fe gyflwynodd pobl ifanc Ysgol Maes Garmon, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2016 yr Urdd ar lwyfan y pafiliwn. 'Dewis a Chydwybod' ydy teitl y neges eleni, gafodd ei pharatoi gyda chefnogaeth Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn.
'Llenwi'r bylchau'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Urdd mai pwrpas y gwaith ymchwil ydy "llenwi'r bylchau yn storfa hanesyddol yr Urdd yn y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn cloriannu ymroddiad pobl ifanc Cymru i heddwch dros y blynyddoedd".
Yn ôl Hanna Huws o Gymru dros Heddwch, un o bartneriaid y cynllun: "Mae traddodiad anrhydeddus yng Nghymru dros 95 o flynyddoedd i annog a hwyluso Cymry ifanc i ymestyn yn rhyngwladol at bobl ifanc ledled y byd er mwyn creu cyfeillgarwch a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd heddwch.
"Wrth lansio'r ymgyrch genedlaethol hon, gan holi am gopïau caled o negeseuon o'r gorffennol neu atgofion personol am y negeseuon a gwersylloedd rhyngwladol yr Urdd, ein gobaith fydd diogelu'r gwaith a'i ddigideiddio ar gof a chadw.
"Rydym yn gobeithio hefyd cael cymorth gwirfoddolwyr i ymchwilio i hanes ein negeseuon gan chwilio yn archifau'r Llyfrgell Genedlaethol i'r ymatebion o dramor. Hoffem hefyd i gymunedau recordio atgofion y rhai a fu'n ymwneud â'r Gwersylloedd Heddwch yng Nghymru neu'r teithiau tramor ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf fel bod gennym storfa gynhwysfawr o archif."
Mi fydd yr holl negeseuon yn ymddangos ar wefan Casgliad y Werin.