Urdd: Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir Na n-Og

  • Cyhoeddwyd
steddfod
Disgrifiad o’r llun,
Valériane Leblond a Siân Lewis enillodd y categori cynradd, am eu cyfrol Pedair Cainc y Mabinogi

Ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd bnawn Iau, fe gafodd enillwyr Gwobrau Tir Na N-og eleni eu cyhoeddi.

Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Siân Lewis a Valériane Leblond enillodd y categori cynradd, am eu cyfrol Pedair Cainc y Mabinogi.

Meddai Eirian James, Cadeirydd panel beirniaid Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og: "Mae'n plethu darluniau Valériane gyda geiriau Siân mewn cyfanwaith hyfryd iawn.

"Mae'r storïau wedi eu hadrodd yn syml ond yn raenus yma, ac mae'r darluniau yn cyfleu naws y storïau yn wych. Roeddem yn hoffi'r darluniau a'r mapiau yn y blaen, oedd yn cyflwyno cymeriadau a thiriogaeth y storïau."

Enillodd Siân y wobr hon yn ôl yn 2007. Meddai: "Mae'n hyfryd iawn cael gwobr am lyfr y ces i gymaint o flas ar ei sgrifennu yng nghwmni'r arlunydd Valériane Leblond.

"Hwrê - a diolch yn fawr i chi i gyd. Mae gen i res o silffoedd llyfrau yn sownd wrth wal fy stafell fyw. Fan'ny - yn nythu rhwng y llyfrau - yw'r lle gorau posib i'r tlws."

Gwalia

Llŷr Titus aeth â hi yn y categori uwchradd, am ei nofel antur, Gwalia.

Meddai Eirian James: "Roedd y llyfr yn denu o'r cychwyn cyntaf, gyda'r clawr trawiadol, nodweddiadol o'r math yma o stori, sydd yn boblogaidd iawn ac amserol iawn o ran diddordeb pobl ifanc heddiw.

"Teimlai'r panel nad oedd 'na ddim byd tebyg i hyn yn y Gymraeg, a'i bod yn stori ffres, newydd, amserol, wedi'i sgwennu'n dda ac yn cynnal diddordeb y darllenydd o bennod i bennod. Roeddem yn hoff hefyd o'r darluniau bach ar gychwyn pob pennod a theimlem eu bod yn ychwanegu at y stori, a braf oedd darllen am fyd arall yn y Gymraeg."

Mae Llŷr yn fyfyriwr ym mlwyddyn gyntaf ei gwrs doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle mae'n astudio dylanwad Celtigrwydd ar Gymru'r unfed ganrif ar hugain gan ganolbwyntio'n benodol ar hanesyddiaeth ac ideoleg. Meddai: "Pan ges i'r cynnig i sgrifennu nofel i'r grŵp oedran arbennig hwn, dyma feddwl beth yr hoffwn i fod wedi'i ddarllen pan oeddwn i'r un oed.

"Mae'n rhaid cyfaddef i mi ddarllen llawer mwy o Saesneg na Chymraeg pan oeddwn i'n iau am fod nofelau Saesneg yn trafod pethau a oedd yn ddifyrrach i mi. Does yna ddim digon o'r math yma o beth yn y Gymraeg ac felly dyma feddwl datrys mymryn ar hynny."