"Y peth we 'ma"

Penawd Richard Williams

Mae proffwydo yn gêm beryglus ar y gorau ond mae'n siŵr mai 'chydig iawn o ddarllenwyr papur newydd 'Wales on Sunday' nôl yn 1995 fyddai wedi darogan datblygiadau technolegol aruthrol y ddau ddegawd canlynol.

Bryd hynny rhywbeth i bryfed cop yn unig oedd 'y we' ac efallai byddai rhai wedi dychmygu mai rhyw declyn arbennig i bysgotwyr dosbarth canol oedd y 'rhyngrwyd'. Faint ohonoch chi ar y pryd fyddai wedi anghytuno gyda dadansoddiad y colofnydd ifanc Richard Williams o werth yr 'internet'?

Meddai Richard yn ei golofn " ...tra mae'r byd i gyd yn "siarad" drwy gyfrifiaduron, dwi'n benderfynol na chaf i fy nhynnu i mewn."

Un mlynedd a'r hugain yn ddiweddarach mi wnaeth Cymru Fyw ffonio Richard (rhag ofn ei fod wedi ei glynnu at ei fygythiad i beidio defnyddio e-bost) i'w atgoffa am ei broffwydoliaeth ac iddo gael cyfle i roi asesiad arall o dwf y we:


Image caption Erthygl wreiddiol Richard Willaims yn 'Wales on Sunday', Gorffennaf 1995 (Diolch i Dafydd Tomos am gadw copi ohoni)

Dyddiau cynnar y dechnoleg

1995. Roedd John Major yn Brif Weinidog, OJ Simpson yn cael ei ganfod yn ddi-euog, Blackburn Rovers yn ennill cynghrair bêl-droed Lloegr - ac Everton yn ennill Cwpan FA Lloegr. Amser hir yn ôl felly!

Roedd hi yn ddyddiau cynnar ar dechnoleg. Yn 1995 y cawsom ni y DVD gyntaf. Lawnsiwyd Windows 95 yr un flwyddyn. A dim ond 1% o boblogaeth Prydain oedd ar y we.

Ac ar y pryd roeddwn yn olygydd newyddion papur Sul y 'Wales on Sunday'. Reit ta, cofio rheini? Papurau newydd. Darnau o bapur oedd pobl yn brynu mewn siop i ddarllen y newyddion, i ddarganfod beth oedd ar y bedair sianel deledu y noson honno ac, yn bwysicaf oll, i gael gwybod pwy oedd wedi eu geni neu farw yn eu cymuned leol.

Image caption "Be 'sgen Richard Williams i'w dd'eud w'snos yma?"

Dipyn o newid!

A dyna lle oeddwn i nôl yn 1995 yn cyhoeddi yn hyder fy ieuenctid na fyddai y "peth we 'ma" byth yn gweithio. Fel sgwennais mewn colofn ar y pryd yn y 'Wales on Sunday' - pwy yn ei iawn bwyll fyddai eisiau gweithio o flaen sgrin drwy dydd a mynd adra i wneud union yr un fath min nos?

A dyma ni heddiw yn 2016. A phawb ar gyfartaledd yn treulio ymron i dair awr y dydd - y dydd! - o flaen sgrin ddigidol.

Wrth gwrs yn 1995 doedd bosib gwybod y byddwn ni heddiw yn defnyddio y we i wylio teledu, gwrando ar gerddoriaeth, darllen newyddion, bancio, talu biliau - bron bopeth. Heb sôn am y ffyrdd mae technoleg wedi gwedd-newid y maes iechyd, gofal cartref, cadw yn iach a'r gwasanaethau sydd o'n cwmpas ni bob dydd.

Image caption Be'? Newyddion. Ar y ffôn!

Dyheu am ryddid

Ond ar ôl penwythnos gŵyl y banc a bod allan yn yr awyr iach a'r haul yn mwynhau'r awyr agored mae'n ddiddorol edrych yn ôl sut mae barn yn newid. Ac wir i chi, er gwychder y dechnoleg newydd a'r posibiliadau ffantastig sydd o'n blaenau ni - mae darn ohona i yn dyheu bob hyn a hyn i gau lawr y wi-fi, torri cysylltiad a mwynhau y llonyddwch, y distawrwydd a'r rhyddid.

Ysgrifennwyd y golofn 20 mlynedd yn ôl mewn papur dydd Sul oedd yn trio ceisio tynnu ymateb o gynulleidfa. Yn y Gymraeg roedd hynny yn gallu bod yn waith caled. Yr arfer oedd pryfocio, herio a thynnu ar y bobl bwysig. Rhywbeth i wneud i bobl feddwl a dechrau sgwrs.

Daeth gwên i fy wyneb wrth ddarllen yr erthygl yma ar fy sgrin ffôn dros 20 mlynedd yn ddiweddarach. A finnau bellach yn ddefnyddiwr brwd o'r dechnoleg, bo hynny yn drydar, Facebook, Whatsapp neu prun bynnag fodd newydd o gyfathrebu sy'n cael ei ryddhau.

O edrych yn ôl, ella bod fy ngeiriau braidd yn fyrbwyll ac yn syth o'r geg - ond eto, faint ohonom ni heddiw sy'n eistedd wrth ddesg boeth, yn edrych ar yr haul tu allan sydd ella yn dyheu ychydig am y bywyd haws, di-gyfrifiadur a fu?

Image caption Richard Williams