Safle newydd parhaol i deithwyr ym Mhenhesgyn, Sir Fôn

  • Cyhoeddwyd
Safle TeithwyrFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae pwyllgor gwaith cyngor Môn wedi cymeradwyo cynllun i greu safle newydd parhaol i deithwyr a sipsiwn ar dir ym Mhenhesgyn, ger Penmynydd.

Mae'r cyngor sir yn bwriadu adleoli pedwar teithiwr, sydd ar hyn o bryd yn byw mewn gwersyll mewn encilfa ar yr A5025 rhwng Porthaethwy a Phentraeth, i'r gwersyll swyddogol.

Yn dilyn cyfarfod y pwyllgor gwaith ddydd Mawrth penderfynwyd y bydd rhaid gwneud gwaith ymchwil pellach i gadarnhau a fydd y safle yn addas o safbwynt diogelwch y ffordd ac effaith ar iechyd.

Bydd swyddogion y cyngor yn siarad â pherchennog cae cyfagos gyda'r nod o'i brynu er mwyn creu mynedfa, cyn gallu cyflwyno cais cynllunio.

Dywedodd Prif Weithredwr Ynys Môn, Dr Gwynne Jones: "Mae gan y Cyngor Sir ddyletswydd i ddarparu safleoedd swyddogol ar gyfer sipsiwn a theithwyr.

"Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio i adnabod lleoliadau posib ar yr ynys. Roedd delio gyda safleoedd sipsiwn a theithwyr yn mynd i fod yn fater dadleuol a sensitif, ond mae'n un sydd raid i'r Cyngor Sir fynd i'r afael ag o."

Ymgynghoriad newydd

Daeth adroddiad ychwanegol a gyflwynwyd i'r pwyllgor gwaith hefyd i'r casgliad nad oedd unrhyw un o'r mannau stopio dros dro gafodd eu hystyried yn ystod proses ymgynghori yn gynharach eleni, yn briodol.

O ganlyniad, bydd proses i ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn ystyried safleoedd eraill ar gyfer mannau stopio dros dro, yn cychwyn ar Fehefin 2.