Llong newydd £100m i deithio o Gaergybi i Ddulyn
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni fferi Irish Continental Group wedi archebu fferi newydd £100m fydd yn cludo teithwyr o Gaergybi i Ddulyn.
Bydd y llong yn cael ei hadeiladu yn yr Almaen ac mae disgwyl y bydd yn hwylio rhwng Cymru ac Iwerddon erbyn Mai 2018.
Bydd lle ar y llong i 1,885 o deithwyr a 300 o geir yn ogystal â 165 o loriau.
Bydd dewis i deithwyr o 435 caban gyda nifer o lefydd bwyta, bariau a sinema ar ei bwrdd.