Lleihad 'dramatig' mewn cyfraddau ysmygu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canlyniadau arolwg sydd yn awgrymu bod llai o lawer o oedolion yn ysmygu.
Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2015 roedd 19% o oedolion yn dweud eu bod yn ysmygu.
Mae hynny yn cymharu â 26% oedd yn ysmygu yn 2003/04.
Mae Llywodraeth Cymru mae hyn yn ostyngiad "dramatig" - ac mae'n golygu eu bod wedi cyrraedd eu targed cyfradd ysmygu o 20% erbyn 2016.
Yn ôl datganiad y llywodraeth maen nhw "ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau uchelgeisiol i ddod â'r lefelau i lawr i 16% erbyn 2020."
'Rhagor i'w wneud'
Mae'r arolwg yn awgrymu fodd bynnag bod llawer o bobl yn yfed gormod a ddim yn gwneud digon o ymarfer corff.
Dywedodd 40% o'r oedolion a holwyd eu bod wedi yfed mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
Dim ond tua 31% o'r oedolion a holwyd eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol ar bum niwrnod neu ragor yn yr wythnos flaenorol.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
"Er bod canlyniadau'r arolwg yn dangos arwyddion o welliant - yn enwedig o ran smygu - mae rhagor o waith i'w wneud mewn rhai meysydd. Mae angen inni wneud cynnydd o ran gordewdra a lefelau gweithgarwch corfforol, ac rwy'n hyderus y bydd ein penderfyniad i gyfuno polisi iechyd a chwaraeon llawr gwlad yn ein helpu i wneud hyn.
"Byddwn ni'n dal ati i gefnogi pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal."
Holwyd 13,700 o oedolion a 2,600 o blant gan Arolwg Iechyd Cymru 2015.