Diwedd ymgynghoriad ysgolion Powys
- Cyhoeddwyd
Daeth tua 800 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed
Mae ymgynghoriad ar gynlluniau dadleuol am ddyfodol pedair ysgol uwchradd ym Mhowys yn dod i ben ddydd Mercher.
Mae Cyngor Powys yn ystyried cau ysgolion Gwernyfed ac Aberhonddu er mwyn creu un ysgol, a gwneud yr un peth yn ysgolion Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt.
Gallai'r newidiadau gael eu rhoi yn eu lle ar gyfer dechrau'r tymor Medi 2017, ond mae cannoedd o rieni a disgyblion wedi ei mynegi eu pryderon.
Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, gallai'r newidiadau leihau costau a mynd i'r afael a lleoedd gwag yn yr ysgolion.
Mae gwrthwynebwyr yn pryderu am y pellter y bydd rhai disgyblion yn gorfod teithio i gyrraedd eu hysgol agosaf.
Dechreuodd y cyngor yr ymgynghoriad ym mis Ebrill.