Y Frenhines yn mynd adre'n gynnar
- Cyhoeddwyd

Roedd yn ddiwrnod pan daeth myfyrwyr Aberystwyth i sylw'r byd. Ddydd Gwener 31 Mai 1996 daeth y Frenhines i Geredigion i agor estyniad newydd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hi hefyd i fod i agor adran newydd Prifysgol Aberystwyth ond wnaeth hynny ddim digwydd. Ar gyngor Heddlu Dyfed Powys penderfynodd y swyddogion Brenhinol i adael y coleg ger y lli yn gynt na'r disgwyl.
Yr Athro Derec Llwyd Morgan oedd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar y pryd:
"Dwi'n cofio bod y Frenhines wedi ei gwahodd i agor estyniad newydd y Llyfrgell Genedlaethol a derbyniais gais gan swyddogion Palas Buckingham i weld a fyddai hi'n gallu ymweld â'r coleg hefyd.
"Do'n i ddim yn awyddus iawn a dweud y gwir am resymau cenedlaethol yn fwy na dim, ond wedi ystyried bod yna nifer o bobl yn ein plith yn arddel y Frenhines wedi'r cwbl fe ddechreuais i feddwl sut i'w chroesawu."
"Yn digwydd bod roedd ganddon ni adran rewlifeg newydd wedi ei sefydlu. Roedd honno wedi ei lleoli mewn stafelloedd ar dop tŵr Llandinam, cartre'r Adran Ddaearyddiaeth. Roedd y lifft i'w chyrraedd yn gyfyng a'r 'stafelloedd eu hunain yn fach felly tybiais y byddai'r swyddogion diogelwch yn penderfynu peidio bwrw 'mlaen gyda'r ymweliad.
"Fe ddaethon nhw yma a phenderfynu nad oedd yna broblem felly daeth cadarnhad y byddai'r Frenhines yn ymweld ddiwrnod ola' mis Mai."
Methu adolygu
Doedd y cyhoeddiad yma ddim wrth fodd y myfyrwyr ac fe ddaethon nhw at ei gilydd i drafod eu hymateb. Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth y flwyddyn honno oedd Emyr Wyn Francis:
"Ar y pryd roedd hi'n gyfnod arholiadau ac oherwydd bod y Frenhines yn dod i'r Llyfrgell Genedlaethol doedd yr adnoddau yno ddim ar gael i ni am ddyddiau cyn yr ymweliad. Roedd nifer ohonon ni yn gweld hynny yn annheg iawn, roedd angen y cyfleusterau arnon ni i adolygu.
"Dridiau cyn yr ymweliad fe aeth tua 45-50 ohonon ni i'r Llyfrgell Genedlaethol a gwrthod gadael. Cafodd y myfyriwr olaf ei symud oddi yno 16 awr yn ddiweddarach.
"Roedd criw ohonon ni yn awyddus i brotestio ar y diwrnod ei hun, ond doedd ganddon ni ddim syniad pendant am natur y brotest. Roedd 'na rai wedi crybwyll eistedd ynghanol y ffordd er mwyn rhwystro'r cerbydau rhag mynd heibio. Yn y dyddiau cyn yr ymweliad aethon ni ati i greu posteri gan eu paentio yn hwyr yn y nos yn y garej yn Neuadd Pantycelyn.
"Roedd hi'n amlwg bod 'na rywun yn cadw llygaid arnon ni. Ar ganol y paentio mi aethon ni am baned, ond pan ddaethon ni'n ôl roedd y posteri wedi diflannu. Doedd dim amdani ond dechrau eto - slogannau fel 'Go Home' ac ati."
Roedd yna gyffro mawr ymhlith y myfyrwyr ar ddiwrnod yr ymweliad ei hun yn ôl Emyr Wyn:
"Roedden ni'n ceisio chwifio'r posteri o ffenestri Neuadd Pantycelyn ond roedd hi'n ddiwrnod gwyntog felly roedden nhw'n codi yn y gwynt fel nad oedd neb yn medru eu gweld. Cafodd rhywun y syniad o glymu trainers i'w gwaelodion nhw fel eu bod nhw yn aros yn eu lle.
Cyfrifoldeb
"Roedd 'na tua 250 o fyfyrwyr tu fas i'r Llyfrgell Genedlaethol cyn i'r Frenhines gyrraedd. Fel Llywydd yr Undeb, ro'n i'n teimlo ei bod hi'n gyfrifoldeb arna' i roi arweiniad. Felly mi geisiais i neidio i ganol y ffordd ond cefais fy stopio yn syth gan ddau blismon a oedd yn gwisgo crysau-t Cymdeithas yr Iaith.
"Mi wnaethon nhw fy nghymryd i i'r bwthyn sydd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Neuadd Pantycelyn. Roedd y plismyn yn gefnogol i'r brotest a thrwyddyn nhw y ces i wybod ei bod yn gwisgo peach."
Swnllyd
Mae'r Athro Derec Llwyd Morgan yn cofio'r diwrnod yn dda hefyd:
"Roedd yr ymweliad â'r Llyfrgell wedi mynd yn ddi-drafferth. Pan gyrhaeddais i a Jane, fy ngwraig, i'w chroesawu i'r coleg yr hyn sy'n aros yn y cof ydy clywed sgrechiadau'r myfyrwyr a gweld y placardiau - roedd "Arise Sir Derec" i'w weld yn glir ar un ohonyn nhw.
"Erbyn hyn roedd mwy o bobl wedi cyrraedd y campws ac roedd yr heddlu yn dechrau poeni am y sefyllfa ddiogelwch. Dywedais i yn glir wrthyn nhw am adael i mi wybod unwaith eu bod nhw wedi penderfynu beth i'w wneud. Roedd hi'n brotest swnllyd ond fyddai'r myfyrwyr ddim yn gwneud niwed i unrhywun.
"Ond wyddwn ni ddim beth oedd yn digwydd tan i mi weld car y Frenhines yn mynd heibio i Pantycelyn. Ro'n i'n gwybod wedyn na fyddai hi'n dod i'r coleg ei hun.
"Roeddwn i'n feirniadol iawn o'r heddlu am beidio dweud wrtha i beth oedd yn digwydd. Pan es i a Jane adre i gartre'r Is-Ganghellor yn nes 'mlaen fe wnaethon ni sylwi bod rhywun wedi taflu carreg trwy'r ffenestr. Felly mi 'naethon ni benderfynu mynd am bryd o fwyd i'r dre' y noson honno.
"Dwi'n cofio clywed merch yn dweud yn Saesneg yn y bwyty "wasn't the principal brave".
"Roedd y stori am y brotest a fy sylwadau am yr heddlu yn drwch ar dudalennau blaen y papurau y diwrnod wedyn.
"Mi gefais i fy ngalw i gyfarfod gyda'r Prif Gwnstabl yng Nghaerfyrddin yn ddiweddarach ac mae'n rhaid dweud i ni gael cyfarfod digon heddychlon er gwaetha' beth oedd wedi digwydd.
"Mi aeth Jane a finnau ar wyliau yn fuan wedi'r brotest. Roedd yna domen o lythyrau yn fy nisgwyl pan ddes i yn ôl. Roedd fy ysgrifenyddes Nan Thomas wedi eu gosod mewn tri phentwr - y rhai neis, y rhai niwtral a'r rhai cas. Rhai gan disgusted of Tunbridge Wells oedd lot o'r rheiny!"
Dafydd Iwan yn y ddalfa
Ar ôl iddo gael ei atal gan y ddau blismon cafodd Emyr Wyn Francis ei gludo i'r ddalfa:
"Roedd 'na wyth myfyriwr wedi eu harestio a phump ohonon ni wedi cael ein charjio. Tra roedden ni yn y ddalfa buon ni'n bwyta fish and chips a chanu rhai o ganeuon Dafydd Iwan 'da'r plismyn.
"Ar ôl i ni gael ein rhyddhau roedd yn rhaid i ni deithio i Wrecsam i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Doedd dim siâp arnon ni yn y prelims, ond gan bod y newyddion am y brotest dros y lle ym mhobman, dwi'n meddwl bod y beirniaid wedi dangos tipyn bach o dosturi.
"Pan gawson ni'n cyflwyno ar y llwyfan mi gyfeiriodd yr arweinydd Dei Tomos at y brotest - "Rhowch groeso brenhinol i Aelwyd Pantycelyn".
"Rwy'n credu yn gryf mai yma y dechreuodd adfywiad Aelwyd Pantycelyn a hyder y myfyrwyr yng ngrym protestio. Roedd e'n hwb hefyd i Ffederasiwn Plaid Cymru.
Yn yr achos llys cafodd yr ynadon Emyr Wyn Francis yn ddi-euog o'r cyhuddiad yn ei erbyn.
"Dwi'n cofio ar ddiwedd yr achos daeth yr erlynydd ata i a chanmol y brotest. Gofynnodd a fyddai'n bosib iddo brynu'r crys-t 'Twll Tin i'r Cwîn' gen i. Fe roies i iddo fe yn anrheg.
"Rwy'n prowd iawn o'r diwrnod. Roedd e'n drobwynt ac fe newidiodd pethe yn gyflym wedyn ym mherthynas Cymru â'r 'Sefydliad'. Y flwyddyn ganlynol daeth y refferendwm a sefydlu'r Cynulliad yn 1999. Erbyn hyn mae ganddon ni Geidwadwyr sy'n arddel syniadaeth genedlaethol."