Euro 2016: Pennaeth Europol yn 'bryderus' am ymosodiad
- Published
Mae cyfarwyddwr yr asiantaeth sy'n cydlynu diogelwch o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn "bryderus" am ymosodiad terfysgol posib yn ystod Euro 2016.
Dywedodd Rob Wainwright, pennaeth Europol ac sy'n wreiddiol o Gwm Gwendraeth, bod y bencampwriaeth yn Ffrainc yn "darged posib" i'r Wladwriaeth Islamaidd.
Ond mynnodd bod yr asiantaeth a'r awdurdodau yn cydweithio er mwyn gwarchod y gystadleuaeth.
Ychydig dros wythnos sydd yna tan y gic gyntaf ym Mharis ar 10 Mehefin.
'Bygythiad'
Dywedodd Mr Wainwright: "Yn gyntaf i gyd fe ddylai'r cefnogwyr ddathlu bod ein gwlad yn mynd i fod yn chwarae yn y bencampwriaeth ac fe ddylen nhw fynd i Ffrainc gan ddisgwyl mwynhau a disgwyl iddi ddigwydd mewn awyrgylch diogel.
"Mae'r awdurdodau wedi rhoi ymdrech fawr er mwyn diogelu'r gystadleuaeth.
"Ond mae'n wir - mae gennym ni fygythiad terfysgol yn Ewrop ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld yr effeithiau dinistriol o hynny yn Ffrainc yn y misoedd diwethaf.
"Rwy'n meddwl y bydd yr Euros yn darged posib i'r Wladwriaeth Islamaidd ac ni ddylem ni gau ein llygaid i hynny.
"Mae Europol yn helpu'r awdurdodau yn Ffrainc er mwyn amddiffyn y bencampwriaeth o fygythiad posib. Rwy'n bryderus am y bygythiad posib ond mae'r mesurau diogelwch sydd mewn lle gan yr awdurdodau yn Ffrainc wedi creu argraff arna i."