T20: Essex yn curo Morgannwg yn gyfforddus
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth Essex guro Morgannwg yn y gêm 20 pelawd nos Fercher gyda saith wiced mewn llaw yn Stadiwm Swalec.
Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr eu targed o 141 yn yr 17eg pelawd ar ôl i'r tîm cartref fod allan am 140.
Jesse Ryder o Seland Newydd oedd y seren i Essex wrth iddo daro 42 i'w dîm.
Dim ond 18 o rediadau wnaeth Ravi Bopara a David Masters ildio i Essex wrth i'r ymwelwyr gipio'r fuddugoliaeth.