Diwrnod Cerddoriaeth BBC: Cyngerdd Pont Hafren i ddathlu
- Cyhoeddwyd
Mae cyngerdd arbennig wedi ei gynnal 80 troedfedd i fyny ar ben Pont Hafren fore Gwener, i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth y BBC.
Bu'r gantores Amy Wadge a chôr Only Men Aloud yn canu uwchben y bont ar doriad gwawr.
Fe wnaeth y gantores, sydd wedi ennill Grammy, berfformio cân newydd o'r enw 'Y Bont' gyda chôr cymysg sy'n cynnwys Only Men Aloud a Chôr Renewal Gospel o Fryste.
Mae'r digwyddiad hefyd yn nodi 50 mlynedd ers adeiladu'r bont wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr.
'Peth mawr i mi'
Enillodd Ms Wadge Grammy yn gynharach eleni am gyd-ysgrifennu cân o'r enw 'Thinking Out Loud' gyda'r cerddor Ed Sheeran.
Dywedodd Ms Wadge, sydd yn wreiddiol o Fryste ond nawr yn byw ym Mhontypridd, bod ei hetifeddiaeth wedi bod yn bwysig iawn wrth ysgrifennu'r gân newydd.
"Dwi wedi ysgrifennu can i ddathlu pen-blwydd y bont ac mae'n ddiwrnod cerddoriaeth hefyd," meddai.
"Mae'n beth mawr i mi oherwydd mod i'n byw yng Nghymru a dwi o Fryste ac mae'r cysylltiad yna rhwng y ddau le yn beth mawr i 'sgrifennu amdano."
Cafodd y perfformiad ei ddarlledu'n fyw ar wasanaethau'r BBC.
Dywedodd Steve Austins, golygydd BBC Radio Wales: "Cydweithio yw hanfod Diwrnod Cerddoriaeth y BBC ac mae'r bont yn symbol o'r ysbryd yma."
Hefyd i ddathlu'r Diwrnod Cerddoriaeth, bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sawl anthem a chaneuon pêl-droed ddydd Gwener i ffarwelio â thîm Cymru cyn gadael am Euro 2016.