Taith 40 milltir i gael cymorth swyddi i bobl Rhyl

diweithdra Image copyright PA

Bydd tua 100 o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau PeoplePlus Cymru yn y Rhyl yn gorfod teithio tua 40 milltir i fynychu apwyntiadau.

Mae'r asiantaeth, sydd yn darparu'r gwasanaeth ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r llywodraeth, yn cau eu swyddfa yn y dref ddydd Gwener.

Bydd yn rhaid i gwsmeriaid PeoplePlus deithio i'r Fflint er mwyn mynychu apwyntiadau.

Mae'n orfodol mynychu'r apwyntiadau yn gyson cyn derbyn budd-daliadau diweithdra.

Yn ôl PeoplePlus bydd y cwmni yn parhau i gynnal presenoldeb yn y Rhyl, ond fe fydd y rhan fwyaf o'u defnyddwyr yno yn cael eu cyfeirio at eu swyddfa yn y Fflint.

Bydd yr asiantaeth yn parhau i dalu costau teithio.

Mae Ieuan Mullholland yn defnyddio'r gwasanaeth yn y Rhyl ac mae wedi dechrau ymgyrch i adfer y gwasanaeth.

"Rwy'n teimlo bod nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl y Rhyl. Mae'n llai tebygol y bydda' i'n cael swydd nawr.

"Mae'n rhaid i mi ddefnyddio'r gwasanaeth ddwywaith yr wythnos - neu golli £56 yr wythnos o fudd-daliadau."

Dywedodd Joel Payne, cyfarwyddwr PeoplePlus yng Nghymru: "Bydd PeoplePlus yn parhau i gadw swyddfa yn y Rhyl yn darparu cefnogaeth swyddi a hyfforddiant sgiliau.

"Oherwydd y tŵf mewn cyflogaeth, a llai o gyfeiriadau at ein cynllun, bydd y rhan fwyaf o'n gwasanaethau yn cael eu darparu yn y Fflint."