BHS: 'Cannoedd' o swyddi yn y fantol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
bhs

Y gred yw bod cannoedd o swyddi yn y fantol yn siopau cadwyn BHS yng Nghymru wedi i'r gweinyddwyr fethu a dod o hyd i brynwr.

Aeth i'r cwmni i'r wal ym mis Ebrill ac mae bygythiad i 11,000 o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae gan BHS chwe siop yng Nghymru - yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Bae Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam a Llandudno.

Roedd cynnig i'w achub gan gonsortiwm sy'n cael ei arwain gan Gregg Tufnell, cyn-bennaeth Mothercare, ond bu'r ymdrechion yn ofer.

Bydd 163 o siopau'r stryd fawr yn cau dros yr wythnosau nesa'.