Deepcut: Disgwyl canlyniad ail gwest Cheryl James
- Published
Mae disgwyl i'r crwner yng nghwest i farwolaeth milwr 18 oed fu farw ym marics Deepcut yn Surrey gyhoeddi rheithfarn.
Cafodd y Preifat Cheryl James, o Langollen yn Sir Ddinbych, ei darganfod yn farw gyda bwled yn ei phen yn 1995.
Roedd hi'n un o bedwar milwr i farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd.
Dechreuodd y cwest, yr ail i'w marwolaeth, ym mis Chwefror ac mae wedi clywed tystiolaeth gan dros 100 o dystion.
Mae disgwyl i'r crwner Brian Barker QC ddechrau cyhoeddi ei ganfyddiadau am 11:00.
Fe wnaeth y cwest cyntaf i farwolaeth y Preifat James ym mis Rhagfyr 1995 gofnodi rheithfarn agored.
Cafodd ail gwest ei ddechrau ar ôl i farnwyr yr Uchel Lys ddileu canfyddiadau'r cwest cyntaf.