Eisteddfod yr Urdd: Uchafbwyntiau Sioned Hughes
- Cyhoeddwyd

Wrth i Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 ddirwyn i ben, bu Prif Weithredwr newydd y mudiad, Sioned Hughes yn rhannu ei huchafbwyntiau o'i Steddfod gynta' wrth y llyw.
1. Y CROESO
Mae'r croeso anhygoel 'da ni wedi ei gael gan drigolion yn ardal wedi bod yn arbennig.
Ac yna'r gwirfoddolwyr, mae'r croeso wedi parhau ymhob cornel o'r maes, o'r meysydd parcio i gefn llwyfan.
2. Y TYWYDD
'Da ni wedi bod mor lwcus. Mae'r haul wedi gwenu arnom ni drwy'r wythnos.
Ffaith ddifyr i chi - dyma Steddfod gyntaf Aled Siôn, cyfarwyddwr y Steddfod, heb ddiferyn o law!
3. WYTHNOS LLAWN EMOSIWN
Mae hi wedi bod yn wythnos emosiynol iawn i mi. Ges i wefr arbennig yn gwylio'r sioe gynradd, Fflamau Fflint nos Fawrth.
Hefyd, roedd seremoni wobrwyo Tlws John a Ceridwen Hughes yn arbennig wrth i Elin Williams gael ei anrhydeddu. Mae mor bwysig ein bod ni'n diolch i'n gwirfoddolwyr ni.
Dw i wedi cael wythnos o chwerthin, 'chydig o ddagrau hapus, hefyd, a hel atgofion 'efo hen ffrindiau.
4. BWRLWM Y MAES
Mae'r wŷl yma wir yn ffantastig. Mae 'na gymaint mwy i'r Steddfod na chystadlaethau'r pafiliwn.
Mae 'na rywbeth i bobl ymhob twll a chornel o'r maes.
5. CYDWEITHIO
Mae 'na gymaint o gydweithio wedi bod gydol yr wythnos, rhwng y lleol a'r cenedlaethol, y staff a'r gwirfoddolwyr. Gyda'n gilydd, 'da ni wedi gwneud rhywbeth arbennig y dylen ni gyd ymfalchïo ynddo.
Mae Steddfod yr Urdd yn rhoi llwyfan cenedlaethol, rhyngwladol i'n plant a'n pobl ifanc ni.
Mae hi wedi bod yn wythnos llawn lliw, bwrlwm ac egni. Diolch i bawb am eu holl waith.
Dw i wrth fy modd ac yn edrych 'mlaen yn barod i adeiladu ar lwyddiannau'r wythnos hon ar gyfer y flwyddyn nesa'.