Iestyn Tyne yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Coron

Iestyn Tyne sydd wedi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016.

Mae Iestyn yn 18 oed ac yn wreiddiol o Foduan ym Mhen Llŷn.

Saith darn o ryddiaith a llên micro a geir yn y gwaith buddugol sy'n dilyn hanes Adar a'i deulu o geiswyr lloches, Andy sy'n trawswisgo am y noson i gael ymlacio efo'i ffrindiau, ac Alize sy'n cyfarfod hunan-fomiwr yn y ddawns ym Mharis.

'Cyfrol lachar'

'Gorwelion' oedd thema y gystadleuaeth eleni, ac yn ôl y beirniaid, Aled Lewis Jones a Jane Jones Owen, roedd gwaith Iestyn yn "gyfrol lachar gyda sawl gorwel cyfoes a chyfredol".

Mae'r goron yn cael ei gwobrwyo am ysgrifennu'r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau a daeth 14 ymgais i law eleni.

Wrth draddodi, dywedodd y beirniaid, "Mae'r casgliad yn llawn o bobl yr ymylon a thrwy ddawn y llenor medrwn uniaethu â'u sefyllfa. Ceir rhychwant llachar o olygfeydd ac o gyweiriau ysgrifennu, a chysondeb yn safon pob un o'r darnau.

"Fe deimlodd y ddau ohonom y byddai'r defnydd amrywiol hwn at ddant darllenwyr ifanc, ac yn rhwydo darllenwyr newydd at y Gymraeg oherwydd amrywiaeth ddifyr y gorwelion yn eu gwaith."

Cafodd Iestyn ei eni ar Ynys Enlli, ac mae'n dod o aelwyd ddi-Gymraeg ond dysgodd yr iaith yn Ysgol Gynradd Pentreucha cyn mynd ymlaen i Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor. Mae bellach yn fyfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio'r Gymraeg.

Ei brif ddiddordeb yw chwarae'r ffidil yn y grŵp gwerin-roc Patrobas ond mae hefyd yn mwynhau peintio a gweithio adref ar y fferm deuluol, Ty'n-y-Mynydd.

Er nad yw Iestyn wedi ennill coron o'r blaen, mae wedi ennill wyth cadair, gyda'r ddiweddaraf draw yn Nhrevelin ym Mhatagonia. Roedd hefyd yn ail yn y gystadleuaeth hon yn 2015 a 2014.

Ifan Jenkins, o Ysgol Gyfun y Strade ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Mari Huws Jones o Gylch Dyffryn Nantlle yn drydydd.