Russell Slade yn gadael ei swydd gyda Caerdydd

Slade

Mae Russell Slade wedi gadael ei swydd fel pennaeth pêl-droed Caerdydd llai na mis ar ôl derbyn y rôl.

Roedd Slade wedi bod yn rheolwr ar y clwb ond cafodd ei symud i'w swydd newydd ddiwedd tymor 2015-16.

Yn y gorffennol mae wedi bod yn rheolwr ar dimau Leyton Orient, Brighton a Yeovil Town.

Dywedodd prif weithredwr Caerdydd, Ken Choo: "Mae'r clwb yn teimlo bod hi'n angenrheidiol cael newid. Mi ydyn ni eisiau creu bach o gynnwrf wneith olygu y byddwn ni yn cyrraedd lefel uwch."

Deallir bod Slade yn awyddus i fynd yn ôl i rôl rheolwr ac mae ymhlith y ffefrynnau ar gyfer clwb Charlton Athletic.