Tystiolaeth bod Cheryl James wedi saethu ei hun
- Cyhoeddwyd

Mae'r crwner yng nghwest y Preifat Cheryl James wedi dweud bod tystiolaeth yn dangos bod y milwr 18 wedi saethu ei hun.
Cafodd y Preifat James, o Langollen yn Sir Ddinbych, ei darganfod yn farw gyda bwled yn ei phen yn y gwersyll yn 1995.
Roedd hi'n un o bedwar milwr i farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd.
Wrth roi ei ddyfarniad yn dilyn cwest wnaeth bara tri mis dywedodd y crwner Brain Barker QC: "Y casgliad yw ei bod wedi gwneud hyn i'w hun.
"Roedd hyn yn weithred fwriadol gan Ms James."
Fe wnaeth y cwest cyntaf i farwolaeth y Preifat James ym mis Rhagfyr 1995 gofnodi rheithfarn agored.
Ond dechreuodd ail gwest ym mis Chwefror ar ôl i farnwyr yr Uchel Lys ddileu canfyddiadau'r cwest cyntaf.
Mae dros 100 o dystion wedi rhoi tystiolaeth.
Yn gynharach dywedodd y crwner, Brian Barker QC bod yna dystiolaeth o awyrgylch "rhywiol" yn Deepcut.
Ond dywedodd bod yr honiad bod Cheryl James wedi cael gorchymyn i gael rhyw gyda milwr arall y noson cyn iddi farw "ar y gorau yn rhagdybiaeth, ar ei waethaf yn ffantasi."
Dywedodd y crwner hefyd nad oedd y gofal ym marics Deepcut yn ddigonol. Doedd dim ddigon o swyddogion yn y barics i hyfforddi ac edrych ar ôl y milwyr ifanc meddai a dywedodd a'u bod nhw wedi diflasu a heb eu disgyblu.
Yn ôl Brian Barker QC roedd yn ddiffyg strwythur yn y gwersyll ac felly "doedd hi ddim yn annisgwyl bod milwyr dan hyfforddiant yn troi at ei gilydd er mwyn cael eu cyffroi."
Perthnasau rhywiol
Doedd cael perthynas gyda milwr arall ddim yn torri unrhyw reolau ond dywedodd fod y modd yr oedden nhw'n gallu cael rhyw yn "anaddas."
Roedd yna dystiolaeth, meddai, o berthnasau rhywiol anaddas rhwng swyddogion neu hyfforddwyr a milwyr dan hyfforddiant.
Dywedodd bod y fyddin yn derbyn bod rhai hyfforddwyr yn gweld "merched ifanc fel her rywiol."
Mae'r crwner hefyd wedi dweud ei bod hi'n 'destun gofid' nad oedd yr ymchwiliad gwreiddiol yn fwy trylwyr.
"Mae wedi bod yn ymchwiliad hir ac anodd. Roedd yn rhaid edrych ar sawl digwyddiad ers Hydref 1995."
Er bod parafeddygon, yr heddlu ac ymchwilwyr wedi eu galw i le y cafodd corff Cheryl James ei ddarganfod roedd yna ragdybiaeth o'r dechrau, meddai, ei bod wedi lladd ei hun.
Yn ystod y tri mis clywodd y crwner bod gan y Preifat James deimladau cymysg am fod yn y fyddin ac roedd hi wedi sôn ei bod eisiau gadael.
Pum mis cyn ei marwolaeth roedd milwr arall, Sean Benton wedi ei ddarganfod yn farw yn y barics gyda phum anaf ergyd gwn i'w frest.
Jôc
Roedd Cheryl James wedi dweud wrth ffrind wrth drafod hyn y byddai yn "hawdd iawn lladd dy hun."
Ar achlysur arall roedd wedi gwneud sylwadau tebyg ond roedd y rhai oedd gyda hi wedi meddwl mai jôc oedd ei sylwadau.
Ar y diwrnod y bu farw roedd hi'n gwneud dyletswyddau yn y gwersyll ar ei phen ei hun.
Yn ôl y crwner, roedd rheolau'r fyddin yn golygu "nad oedd hyn fod i ddigwydd".
Roedd rhieni Cheryl James, Des a Doreen yn y llys er mwyn clywed y rheithfarn.
Dywedodd y crwner wrth grynhoi eu bod nhw wedi gorfod aros rhy hir er mwyn cael ymchwiliad arall.