Euro 2016: Carfan Cymru'n gadael am Sweden
- Cyhoeddwyd

Mae carfan bêl-droed Cymru wedi gadael am Sweden dydd Sadwrn ar gyfer eu gêm gyfeillgar olaf cyn pencampwriaeth Euro 2016.
Roedd Chris Coleman a'r chwaraewyr yn gadael o Faes Awyr Caerdydd ac reodd dros 100 o ddisgyblion ysgol yno i ffarwelio â nhw.
Fe fydd y garfan yn teithio i Stockholm ar gyfer chwarae eu gêm gyfeillgar olaf ddydd Sul cyn i bencampwriaeth Euro 2016 ddechrau.
Nid oes disgwyl y bydd Joe Ledley, Joe Allen na Hal Robson-Kanu yn chwarae yn erbyn Sweden oherwydd anafiadau, ond fe all Gareth Bale chwarae rhan yn y gêm yn ôl Coleman.
Ysgol Treganna yn ffarwelio â charfan Cymru ym Maes Awyr Caerdydd
O Sweden bydd y chwaraewyr yn teithio i'w canolfan yn Dinard yn Llydaw ar gyfer Euro 2016, cyn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin.
Cafodd y garfan lawn o 23 o chwaraewyr ei chyhoeddi yn gynharach yn yr wythnos.
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2016