Clwb Pêl-droed Abertawe ar fin cael ei brynu
- Published
image copyrightGetty Images
Mae'n ymddangos fod y gwŷr busnes o'r Unol Daleithiau Jason Levien a Steve Kaplan ar fin cwblhau eu trafodaethau ar gyfer prynu Clwb Pêl-droed Abertawe.
Credir bod y clwb yn werth tua £100m.
Mae'r ddau yn ceisio prynu 60% o'r clwb, fyddai'n rheolaeth iddynt.
Manylion cyfreithiol sy'n gyfrifol am yr oedi yn y broses.
Hefyd bydd yn rhaid i'r Uwch Gynghrair benderfynu fod Levien a Kaplan yn addas fel perchnogion, cyn bod penderfyniad terfynol.
Bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe, sydd â chynrychiolwyr ar y bwrdd rheoli, yn parhau â 21.1% o gyfranddaliadau yn y clwb.
Mae disgwyl y bydd Huw Jenkins yn parhau fel Cadeirydd a Leigh Dineen fel is-gadeirydd.