Ffyrdd ar gau ar gyfer Triathlon Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy na 1,000 o athletwyr yn gwneud eu ffordd trwy Abertawe ddydd Sul ar gyfer triathlon y ddinas.
Mae ffyrdd ar gau mewn rhannau o'r ddinas wrth i gystadleuwyr nofio, seiclo a rhedeg ar hyd y llwybr.
Bydd Heol Oystermouth ar gau rhwng Heol y Gwynt a Lôn Sgeti o 16:00 tan 20:00.
Mae gyrwyr ar yr M4 sy'n teithio i orllewin y ddinas yn cael eu hannog i ddefnyddio cyffordd 47.