Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger tafarn y Clytha Arms
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.
Bu farw John Grant, 30 oed o ardal Bryste, yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Groesonen, Cleidda, ger Y Fenni am tua 19:30.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda a char Range Rover.
Mae dyn 60 oed o Sir Fynwy wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.