'Dim digon o arian' i ddarparu'r M4 a'r Metro
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi galw ar arian sy'n cael ei fenthyg gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 i'w gael ei wario ar y Metro.
Yn ôl Jenny Rathbone does dim digon o gyllid ar gyfer y ddau gynllun.
Mae AC Canol Caerdydd yn dweud bod mwy o fanteision i gynllun y Metro, fydd yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn ne Cymru, na'r M4.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni y bydd yn gallu darparu'r ddau brosiect.
£500m
Cyn i bwerau newydd gael eu datganoli yn 2018, mae Llywodraeth y DU yn gadael i weinidogion Cymru fenthyg £500m ar gyfer ffordd osgoi'r M4.
Mae cyd-aelod Llafur Ms Rathbone, John Griffiths, hefyd wedi galw ar yr arian i gael ei wario ar y Metro.
Dywedodd aelod Dwyrain Casnewydd bod mwy o gefnogaeth wleidyddol iddo yn y Cynulliad na chynllun yr M4.
Mae asesiadau diweddar o ffordd osgoi'r M4 wedi amcangyfrif y byddai'r gost tua £1.1bn.
Tua £2bn fyddai cost y Metro, yn ôl un amcangyfrif diweddar.
Dywedodd Ms Rathbone, sydd wedi mynegi ei phryderon am gynllun yr M4 yn y gorffennol, wrth BBC Cymru: "Does gennym ni ddim arian i wneud y ddau."
Mae angen "mwy o arian" ar y Metro os am ei "wneud yn iawn", meddai.
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw gronfa arall o arian y gallem ddefnyddio er mwyn cael yr arian yma. Dyw ddim yn bodoli.
"Dydyn ni methu cael arian Ewropeaidd ar gyfer yr M4. Mae gennym ni arian Ewropeaidd ar gyfer y Metro, ond dim yr holl arian sydd ei angen."
Y Cynulliad ddylai "benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyg", meddai Ms Rathbone.
'Adlewyrchu ein blaenoriaethau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ffordd osgoi'r M4 a'r Metro yn bwysig iawn i'n gweledigaeth ni ar gyfer system drafnidiaeth lawn i Gymru.
"Cafodd y llywodraeth yma ei hethol ar fandad i weithredu ar y ddau brosiect uchelgeisiol yma a dyna fyddwn ni'n wneud.
"Bydd ein cynlluniau gwario ar gyfer y blynyddoedd nesa' yn adlewyrchu ein blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth hon."