Sweden 3-0 Cymru
- Published
image copyrightPA
Fe orffennodd Cymru eu paratoadau ar gyfer Euro 2016 ar nodyn siomedig ar ôl colli yn Sweden.
Ar y fainc oedd Gareth Bale ar ddechrau'r gêm, wrth i Emil Forsberg roi'r tîm cartref ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cynta'.
Mikael Lustig sgoriodd yr ail i Sweden yn yr ail hanner, cyn i'r eilydd John Guidetti wneud hi'n dair.
Bu'n berfformiad siomedig gan Gymru a fydd yn wynebu Slofacia yn eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn Bordeaux nos Sadwrn.