Carcharu pedwar wedi ymosodiad ar deulu yng Ngwlad Thai
- Published
Mae pedwar person wedi cael eu carcharu ar ôl ymosodiad ar deulu o Fro Morgannwg tra roedden nhw ar wyliau yng Ngwlad Thai, yn ôl adroddiadau.
Bu Lewis a Rosemary Owen a'u mab John Owen, o Wenfo, yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro'n anymwybodol yn ystod dathliadau'r flwyddyn newydd yn Hua Hin fis Ebrill.
Cafodd Ms Owen, a oedd yn 65 ar y pryd, niwed i'w ymennydd a chafodd ei gŵr, 68, a'i mab, 43, bwythau wedi anafiadau i'w pennau.
Yn ôl Ms Owen, fe ddywedodd y Swyddfa Dramor wrthi fod y pedwar wnaeth ymosod ar y teulu wedi eu dedfrydu i garchar.
Bydd Suphatra Baithong a Yingyai Saengkham-in, y ddau yn 32, a Siwa Noksri a Chaiya Jaiboon, sy'n 20, yn wynebu pedair blynedd dan glo, meddai'r Bangkok Post.
Daeth manylion am yr ymosodiad i'r amlwg ar ôl i luniau CCTV ddangos ymosodwyr yn taro a chicio'r tri gael eu rhyddhau ar y we.
Mae Mr a Ms Owen wedi bod yn ymwelwyr cyson yng Ngwlad Thai ers yr 1980au.