Ffrae am hawliau saethu ar dir cyhoeddus Cymru
- Published
Mae BBC Cymru ar ddeall bod trafodaethau'n cael eu cynnal am ddyfodol trwyddedau saethu ar dir cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal arolwg o saethu ar ei ystadau - ond ym mis Mawrth fe adnewyddodd nifer o drwyddedi saethu.
Dywedodd ymgyrchwyr bod saethu ffesynt ar dir cyhoeddus yn peryglu anifeiliaid a diogelwch.
Yn ôl CNC mae'r trwyddedi wedi bod mewn lle ers dros ddegawd, a bod tenantiaid wedi cael gwybod am yr arolwg.
Dywedodd elusen Animal Aid bod saethu'n cael ei gynnal ar dir CNC yng nghanolbarth a de Cymru, gan gynnwys mewn rhai ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
"Pobl Cymru sy'n berchen ar y tir, a does gan CNC ddim yn hawl i'w rentu i nifer fach o unigolion preifat," meddai llefarydd.
"Rhaid i unrhyw drafodaethau am sut y bydd y tir yma'n cael ei ddefnyddio yn y dyfodol gael ei gynnal mewn modd atebol ac agored."
Diwydiant 'gwerth £75m'
Dywedodd Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain bod saethu yn "hynod o bwysig" i gefn gwlad Cymru.
Maen nhw'n honni bod y diwydiant saethu gwerth £75m i Gymru ac yn cefnogi'r hyn sydd gyfwerth â 2,400 o swyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae CNC yn cynnal arolwg o'i bolisi ar saethu ar ei dir ar hyn o bryd.
"Mae CNC wedi ein sicrhau o'i addewid i sicrhau ufudd-dod a gonestrwydd o ran saethu ar ei dir."