'Sgwennu llyfr am brofiadau o werthu ecstasi yn 18 oed
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Daniel Roberts o Landderfel ger y Bala osgoi dedfryd o garchar am werthu'r cyffur ecstasi.
Ond yn hytrach na charcharu'r pêl-droediwr addawol 18 oed - oedd ar brentisiaeth hefo Clwb Pêl-droed Wrecsam - penderfynodd y barnwr y byddai Daniel yn cael dedfryd ohiriedig, a chyfle i ddefnyddio'i brofiadau i ysgrifennu llyfr gyda'i fodryb, yr awdures Bethan Gwanas.
Bydd hefyd yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd i siarad am ei brofiad.
"Nes i ddechrau cymryd cyffuriau pan o'n i'n 17 ar nosweithiau allan hefo'n ffrindiau," meddai Daniel wrth gyflwynydd rhaglen y Post Cyntaf , Dylan Jones.
"Dwi'n cofio mynd i ymarfer pêl-droed, a nes i weld rhywun o'n i'n ei 'nabod o'r blaen, ac mi ddywedodd pa mor hawdd oedd o i werthu'r ecstasi 'ma.
"Oedd o'n gneud o allan bod o mor hawdd a chicio pêl-droed.
"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn deall bod ecstasi yn gyffur Class A. O'n i ddim yn deall chwaith ei fod o mor serious."
'Wedi bod trwy uffern'
Cafodd Daniel ei arestio, a chyfaddefodd i fod ag ecstasi yn ei feddiant a'i werthu.
"O'n i ddim yn meddwl am neb ond fi fy hun a 'sgen i ddim ond fi fy hun i'w feio," meddai.
"Dwi'n falch 'mod i wedi cael fy nal, achos bysa petha' wedi gallu mynd yn lot gwaeth."
"Mae rhieni Dan wedi bod trwy uffern," meddai modryb Daniel, Bethan Gwanas.
"Pan gyrhaeddodd yr heddlu gyntaf - wedi iddo gael ei arestio a'i gadw yn y gell dros nos - fe wnaethon nhw gymryd tipyn o amser cyn dweud wrth weddill y teulu.
"Fe wnaethon ni gyd rannu'r baich o ddweud wrth bobl eraill wedyn, a'r rhai olaf i gael gwybod oedd nain a taid."
Ar y funud mae Daniel yn gweithio ar faes carafannau ei nain a'i daid, ond mae'n dweud ei fod yn gobeithio dilyn cwrs coleg yn y dyfodol.
"Pan mae rhywun yn galw eich nai chi'n 'drug dealer', mae'n brifo," meddai Bethan.
"Ond wedyn 'da chi'n sylweddoli bod mwy iddi na bod yn hunanol a meddwl am bres.
"Mae'r pwysau sy'n cael ei roi ar chwaraewyr pêl-droed ifanc yn gallu mynd i'w pen."
'Rhannu fy stori'
Penderfynodd Daniel ysgrifennu llythyr at y barnwr mewn ymdrech i osgoi dedfryd o garchar.
"Nes i sgwennu llythyr i'r barnwr, yn sôn 'mod i eisiau rhannu fy stori efo plant fy oed i," meddai Daniel.
"O'n i'n lwcus iawn bod Bethan yma i helpu - i ddweud y byddai'n bosib gwneud y llyfr a mynd i ysgolion i adrodd fy hanes."
Yn ôl Bethan, roedd y barnwr yn sylweddoli nad oedd lles mewn gyrru Daniel i'r carchar.
"Yn y llys, roedd hi'n gwbl amlwg i'r barnwr a phawb arall yno - doedd hwn ddim yn achos arferol.
"Roedd Dan wedi 'sgwennu llythyr arbennig at y barnwr, ac roedd y teulu, pobl fusnes o ardal y Bala a phobl o glybiau pêl-droed oll wedi 'sgwennu llythyrau yn ei gefnogi.
"Gallai hi wedi bod yn wahanol i hogyn fel Dan, ond o gefndir gwahanol, fyddai ddim wedi cael llythyrau o gefnogaeth."
'Person cryfach'
Cafodd Daniel ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Mae'n rhaid iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned ac mae'n rhaid iddo aros adref rhwng 21:00 a 06:00 am bedwar mis.
Cafodd ddirwy o £500 ac mae'n rhaid iddo dalu £340 mewn costau.
"Fe fydda i'n berson cryfach oherwydd hyn - dwi'n gwybod hynny'n bendant," meddai Daniel.
"Dwi'n cofio deffro un bore a gwrando ar y radio - roedd 'na ferch o Loegr oedd wedi marw o gymryd un o'r tabledi ecstasi 'ma.
"Wnaeth o neud fi deimlo'n sâl, a theimlo mor ddrwg am yr hyn o'n i wedi'i wneud.
"Dwi wedi tyfu i fyny'n sydyn oherwydd hyn, a deall y drwg 'dwi wedi'i wneud."