M4: Carchar am achosi marwolaethau tri dyn
- Cyhoeddwyd

Cafwyd Stephen Jenkins yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Swindon
Mae dyn o dde Cymru wedi ei garcharu am bedair blynedd a hanner am achosi marwolaeth tri o'i gydweithwyr drwy yrru'r beryglus.
Bu farw James Stark, 37, Steven Sheldon, 35, a Martin Williams, 36, o Gwm Cynon pan wnaeth lori a fan wrthdaro ar yr M4 ger Chippenham, Wiltshire, yn 2014.
Cafodd Stephen Parry Jenkins o Abercwmboi ei ddedfrydu ar ôl i reithgor yn Llys y Goron Swindon ei gael yn euog o achosi marwolaethau'r tri mewn achos.
Mewn datganiad, dywedodd Valentina Popal, mam James Stark, bod "twll yn ein bywydau" wedi marwolaeth ei mab, a bod ei bywyd "wedi ei rwygo".
Yn ogystal â'r ddedfryd, cafodd ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a thri mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2016