Côr Cymreig yn swyno actor adnabyddus o America
- Cyhoeddwyd

Mae côr o bentre' yng nghefn gwlad Cymru yn obeithiol y bydd yr actor a'r canwr Americanaidd David Soul yn westai arbennig yn eu cyngerdd nos Sadwrn.
Mae seren y gyfres deledu Starsky and Hutch yn y '70au yn llywydd anrhydeddus Côr Llanmadog - ar ôl iddo eu clywed tra ar wyliau ar Benrhyn Gŵyr yr haf diwethaf.
"Roedd David mewn tafarn leol pan glywodd sôn am y côr a gofynnodd am gael mynd draw i'w clywed nhw'n ymarfer - a chafodd ei wirioni'n lan," meddai Lynda Jenkins, cyfarwyddwr cerddorol y côr.
"Ers hynny, mae'r berthynas wedi datblygu a fe nawr yw ein llywydd anrhydeddus."
Mae Mr Soul wrthi'n ffilmio yng Nghiwba ond yn obeithiol o wneud y daith.
'Arlwy trydanol'
Mewn rhagair ar wefan y côr, dywed yr actor 72 oed: "Ar ôl byw ym Mhrydain am 20 mlynedd, prin i mi weld ardal mor brydferth na chwaith cwrdd â chymuned fwy cyfeillgar na Llanmadog.
"....cefais fy syfrdanu gan Gantorion Llanmadog a'u harlwy trydanol, sy'n cynnwys caneuon traddodiadol Cymreig, caneuon crefyddol, caneuon o'r theatr a hyd yn oed cân 'Bohemian Rhapsody' gan y grŵp Queen."
Dywedodd ysgrifenyddes y côr, Menna Hughes, eu bod yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur yng Nghapel y Crwys ym mhentre' Crwys.
"Fe rheol rydym yn perfformio o flaen tua 100 o bobl, ond mae Capel y Crwys yn dal 500 ac rydym yn ffyddiog y bydd y lle'n llawn."
"Byddai David Soul yn hoffi'n fawr iawn bod yn y cyngerdd nos Sadwrn ond mae'n bosib na fydd pwysau gwaith yn caniatáu, gan ei fod yn teithio'n ôl ac ymlaen i Giwba."
Cafodd y côr ei sefydlu naw mlynedd yn ôl, gan tua 12 o bobl leol oedd wedi eu hysbrydoli gan y gyfres deledu 'Last Choir Standing'.
"Erbyn hyn mae yna dros 50 o aelodau ac rydym wedi codi dros £20,000 ar gyfer elusennau," meddai Mrs Hughes.
Gwahoddiad i ganu?
Yn ogystal â Llanmadog, mae'r aelodau yn dod o ardaloedd cyfagos fel Tre-gŵyr a Phenclawdd.
Hefyd yn perfformio ar y noson fydd Côr Meibion Pontarddulais.
Y darlledwr Garry Owen yn arwain y noson, a dywedodd:
"Mae David Soul wedi cael sawl hit ei hun yn y siartiau fel canwr...efallai y galla' i ei berswadio fe i ganu un ohonyn nhw yn y cyngerdd i ni, siŵr bydde pobl wrth eu boddau â 'Silver lady'.