Cynllun 'parc dinesig' i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Sgwâr y Castell, Abertawe

Gallai Sgwâr y Castell yn Abertawe gael ei drawsnewid yn "barc dinesig".

Mae cynghorwyr yn dweud bod y sgwâr, a gafodd ei ddatblygu yn y 1990au, "wedi gweld dyddiau gwell" ac maen nhw eisiau ei adfywio a'i wneud yn fwy "lliwgar".

Byddai hefyd yn cydfynd â'r cynlluniau i adfywio canol y ddinas, allai greu tua 1,700 o swyddi parhaol, yn ôl y cyngor.

Bydd cabinet y cyngor yn penderfynu'n ddiweddarach yn y mis a fyddan nhw'n bwrw 'mlaen â'r cynlluniau i ailddatblygu'r sgwâr ac yna bydd cyfle i'r cyhoedd leisio barn.