Beth mae'r UE wedi ei wneud ar gyfer amgylchedd Cymru?
- Cyhoeddwyd

Beth mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ei wneud ar gyfer amgylchedd Cymru, ac a fyddai ein cefn gwlad a'n moroedd yn well pe bydden ni yn aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu yn gadael?
Pan mae'n dod i gyfreithiau amgylcheddol, mae'r UE wedi creu mwy ohonyn nhw nag unrhyw le arall yn y byd.
Mae'r ymgyrchwyr dros aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yn dweud bod rheolau'r undeb wedi golygu bod gwelliannau wedi eu gwneud i ansawdd yr aer ac ansawdd y dŵr, amddiffyn rhywogaethau prin ac annog ynni cynaliadwy.
Ond mae'r ymgyrchwyr sydd eisiau gadael yn dweud bod Cymru a Phrydain yn "colli ei llais" pan mae rheolau yn cael eu creu.
Mae'r ymgyrchwyr dros aros yn sôn am arfordir Cymru fel un enghraifft benodol lle mae cyfreithiau'r UE wedi cael effaith gwirioneddol.
Mae gan Gymru rhai o'r dyfroedd ymdrochi gorau ym Mhrydain gyda thraethau yn denu nifer o ymwelwyr.
Gruff John yn esbonio ei waith yn profi'r dŵr
Mae'r dŵr ym mhob un o'r 103 o lefydd lle y gall pobl fynd i nofio yn gorfod cael ei brofi o dan reolau'r UE ac mae'r canlyniadau diwethaf yn dangos nad yw dim un wedi methu a chyrraedd y safon yn 2015. Roedd 82 yn "ardderchog".
Ond dyw'r sefyllfa ddim wastad wedi bod fel hyn gyda charthion heb eu trin yn cael eu pwmpio mewn i'r môr tan ddiwedd y 90au.
Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, sydd yn ymgyrchu i aros yn rhan o'r undeb, mae angen i wledydd gydweithio i daclo problemau amgylcheddol: "Dyw llygredd o'r amgylchedd a newid hinsawdd ddim yn parchu ffiniau gwleidyddol.
"Yn wir, mae'n rhaid i ni daclo nhw, fel welon ni gyda thrafodaethau diweddar ym Mharis ar newid yr hinsawdd, ar lefel fyd eang, ar draws y byd.
"Ac felly mae'r syniad yma bod Prydain yn mynd i gilio nôl i'w chragen a meddwl bod ni yn gallu gwneud yn well ar ben ein hunain i fi yn ffolineb llwyr, oherwydd mae 'na lygredd sydd yn digwydd mewn un wlad yn mynd i gael oblygiadau mewn gwlad arall.
"Mi allech chi gael llygredd yn y môr sydd yn cael ei olchi lan ar draeth gwlad arall."
Ar hyn o bryd mae'r Undeb Ewropeaidd wedi gosod cyfyngiadau ar allyriadau sylffwr deuocsid sydd yn dod o ffatri glo brig Aberddawan ym Mro Morgannwg. Mae'n rhaid i Lywodraeth San Steffan lynu at y cyfyngiadau hyn.
Mae ffatrïoedd glo brig yn raddol ddiflannu er mwyn cwrdd â rheolau aer glan yr UE ac i helpu Prydain i gwrdd â'i thargedau llym ar newid hinsawdd. Mae rhywogaethau prin hefyd yn cael eu gwarchod trwy gyfreithiau Ewropeaidd.
Fe all cwmnïau adeiladu wynebu oedi hir a chostau mawr os ydyn nhw yn dod o hyd i anifeiliaid megis madfallod ar dir lle maen nhw'n bwriadu datblygu.
Ar safle adeiladu ym mhentref Llaneurgain yn Sir y Fflint mae Bryn Roberts o gwmni Anwyl Construction yn dangos y tir maen nhw wedi ei ddarparu er mwyn cartrefu madfallod a moch daear.
Bryn Roberts
"Mae'n cymryd dipyn o amser. Mae cael y licence yn rhyw 6 wythnos," meddai. "Mae mynd trwy broses efo'r sir o signio ffwrdd, mae hynna yn rhyw fis, 6 wythnos arall. Y gost ydy cost gwneud y gwaith wedyn - yn fama o gwmpas £150,000 i gael rhywbeth wedi darfod."
Mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt yn dweud bod rheolau fel hyn yn golygu bod gobaith i blanhigion, anifeiliaid ac adar prin oroesi.
Ond mae ymgyrchwyr dros adael yr undeb yn feirniadol iawn o'r biwrocratiaeth ac yn dweud y byddai'n well i Lywodraeth Prydain a Chymru ddelio gyda chyfreithiau amgylcheddol eu hunain.
Yn ôl Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, byddai pleidlais i adael yn golygu y byddan nhw yn edrych "ar bob deddfwriaeth".
Dywedodd: "Mi fyddwn ni yn cadw'r pethau sydd yn gweithio i ni ond mi fyddwn ni yn hepgor y pethau sydd yn ddrud a ddim yn gweithio."
Mae'n dadlau hefyd y byddai Prydain gyda llais cryfach ar y llwyfan rhyngwladol: "Mae gwledydd fel Japan, Ffiji a Gwlad yr Iâ - cenhedloedd bychain- sydd ddim yn rhan o unrhyw undebau masnach fel yr UE dal yn cymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol pan mae'n dod i faterion gwarchod yr amgylchedd."
Efallai mai'r economi a mewnfudo yw'r pynciau llosg yn yr ymgyrch refferendwm hyd yn hyn. Ond mae effaith yr Undeb Ewropeaidd ar yr amgylchedd yn enfawr ac yn werth ystyried yn ôl y ddwy garfan yn y ddadl yma.