Brodyr y bont

Jacques a Louis Davies-Cren
Image caption Jacques a Louis Davies-Cren

Mae Pont Hafren yn 50 oed eleni ond wyddoch chi bod yna ddisgyblion o Loegr yn ei chroesi bob bore er mwyn cael addysg Gymraeg?

Dyna'n union sy'n wynebu Jacques a Louis Davies-Cren o Fryste bob bore. Mae eu tad yn eu cludo dros y bont er mwyn iddyn nhw ddal bws ym Magwyr i fynd â nhw i Ysgol Gyfun Gwynllyw ger Pontypŵl.

Er eu bod yn byw yn Lloegr mae'r brodyr wedi cael addysg Gymraeg ers eu bod yn ifanc iawn.

Cyn mynd i'r ysgol uwchradd roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Y Ffin yng Nghil-y-Coed. Mae eu brodyr ieuengach Tom, 10, ac Evan, wyth, yn ddisgyblion yno ar hyn o bryd.

Blinedig

"Mae'r teithio yn flinedig iawn - mae'n cymryd rhwng awr i awr a hanner bob ffordd," eglurodd Louis sydd ym mlwyddyn 11.

"Er mai 30 milltir sydd rhwng Bryste a'r ysgol, mae'r bws yn mynd rownd y pentrefi gwledig cyn cyrraedd yr ysgol.

"Ry'n ni'n codi am 06:30 er mwyn bod allan o'r tŷ erbyn 07:30," meddai Jacques sydd yn astudio ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch.

"Mae'n anodd adeg yr arholiadau gan nad y'n ni 'nôl adre tan tua 17:00 felly does dim llawer o amser ar ôl i adolygu.

"Rwy' wedi gweithio allan ein bod yn treulio 360 o oriau ar y bws bob blwyddyn - dros 13,000 o oriau ers i ni ddechrau yn yr ysgol, ond mae e werth e am addysg Gymraeg."

Image caption Mae Jacques a Louis yn teithio 60 milltir bob dydd i gael addysg Gymraeg yn Ysgol Gwynllyw

"Dyw ein ffrindiau ni ym Mryste ddim yn deall pam ein bod ni'n teithio mor bell i'r ysgol a dyw rhai o'n ffrindiau yma yn yr ysgol ddim yn sylweddoli ein bod ni'n byw yn Lloegr," meddai Louis.

Aml-ieithog

Mae'r brodyr yn unigryw hefyd gan mai nid Cymraeg yw iaith yr aelwyd ym Mryste.

Meddai Jacques: "Mae Dad yn dod o ogledd Ffrainc felly 'dyn ni'n siarad Ffrangeg gyda fe. Mae Dad yn gallu dweud tri peth yn Gymraeg - 'coch', 'Bore da' a 'Glan Llyn'!

"Mae Mam yn siarad Cymraeg on ry'n ni'n siarad Saesneg gyda hi er mwyn cryfhau'n sgiliau yn yr iaith honno. Ryn ni'n siarad Cymraeg yma yn yr ysgol. Os 'dyn ni eisiau rhannu cyfrinach byddwn ni'n dau yn siarad Ffrangeg!"

Mae cefndir eu rhieni yn galw am 'chydig o entente cordiale pan mae hi'n dod i chwaraeon yn ôl Louis: "Ry'n ni wedi bod yn gwylio Ffrainc yn chwarae rygbi ar y teledu ers pan roedden ni'n ifanc iawn, felly pan mae hi'n dod i rygbi ry'n ni'n cefnogi Ffrainc.

"Fel arall rwy'n credu y bydde 'na lot o ffraeo a dadlau mewn Ffrangeg yn tŷ ni!"

Profiad gwerthfawr

Mae'r brodyr wedi gwerthfawrogi cael addysg Gymraeg er gwaetha'r teithio.

"Mae'n bwysig iawn ac yn ychwanegu at fy sgiliau," meddai Louis. "Rwy'n credu y bydd yn help i mi pan yn mynd i'r brifysgol.

"Rwy'n awyddus i astudio dylunio neu ffiseg unai yng Nghaerdydd neu'n Abertawe. Bydd yn fy helpu yn y dyfodol hefyd."

Mae Jacques hefyd yn falch o fod wedi cael y cyfle i gael addysg Gymraeg ond mae'n gweld un anfantais ar y gorwel o gymharu â'i gyfoedion yn Ysgol Gwynllyw.

"Gan fy mod i'n byw yn Lloegr bydd yn rhaid i mi dalu'r ffioedd dysgu llawn pan fyddai'n mynd i'r coleg," meddai. "Mae fy ffrindiau yn gallu manteisio ar y cymorth sydd i'w gael gan Lywodraeth Cymru. Falle dylen ni fod wedi symud i Gymru!"

Mae'r ddau frawd yn dweud bod eu dau frawd arall hefyd yn falch o gael addysg Gymraeg.

"Mae Tom yn edrych ymlaen am ddod yma ond bydd Evan yn un o'r disgyblion cyntaf i fynd i'r ysgol uwchradd Gymraeg newydd yng Nghasnewydd. "

Heb os mae profiad y brodyr Davies-Cren yn ffordd unigryw o bontio rhwng gwahanol ddiwylliannau.

Image copyright Geograph/Jaggery

Gallwch glywed rhagor o hanes y bechgyn a'u taith anarferol i'r ysgol yn yr eitem hon ar Ffeil sydd i'w gweld ar YouTube.