Carchar am daflu dyn o falconi ym Mhorthcawl
- Published
Mae dyn 22 oed wedi ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl taflu cariad newydd ei gyn bartner oddi ar falconi.
Fe ddringodd Jack Watson o Ben-y-bont beipen law er mwyn cyrraedd fflat ei gyn gariad, Katie Edwards ym Mhorthcawl.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddi fynd yn ffrwgwd, cyn i Watson daflu Christopher Williams dros ochr y balconi ar lawr cynta'r adeilad.
Roedd Miss Edwards wedi gwrthod gadael iddo fynd i mewn i'w fflat wedi iddo guro ar ei drws.
Fe alwodd hi'r heddlu, ond roedd Watson wedi dringo'r llawr cynta' i'r balconi cyn i blismyn gyrraedd.
Bygwth lladd
Dywedodd yr erlynydd David Pugh: "Roedd hi'n galw'r heddlu, a'r peth nesa' roedd hi'n wybod, roedd Watson wedi cyrraedd ei balconi ac yn nesáu at y drws agored.
Clywodd y llys i Watson ddweud ei fod yn mynd i'w lladd nhw, cyn iddo daclo Mr Williams a'i godi cyn ei ollwng oddi ar y balconi.
Erbyn i'r heddlu gyrraedd, roedd Watson yn ymosod ar Miss Edwards. Fe gafodd anafiadau i'w hwyneb ar ôl iddo'i dyrnu.
Plediodd Watson yn euog i ddau gyhuddiad o achosi anaf corfforol yn yr ymosodiad fis Mai.
Dywedodd y Barnwr Eleri Rees: "Doedd gennych chi ddim hawl mynd i mewn i'r fflat yna.
"Does gen i ddim amheuaeth eich bod yn bwriadu achosi anafiadau mwy difrifol nag y gwnaethoch chi, drwy daflu Mr Williams oddi ar y balconi."