Arestio dyn o Fro Morgannwg wedi marwolaeth yn Kenya
- Cyhoeddwyd
Mae dyn busnes o Fro Morgannwg wedi ei arestio yn Kenya ar ôl i fenyw farw ar ôl cael ei saethu.
Cafodd Richard Alden, 53 oed, o'r Bontfaen ei gadw'n y ddalfa ddydd Sadwrn wedi i Grace Kinyanjui, 42 oed, farw. Yn ôl cyfreithiwr Mr Alden, cafodd Ms Kinuanui ei lladd ar ôl i'r gwn roedd hi'n ei ddal danio'n ddamweiniol.
Aeth Mr Alden â Ms Kinyanjui i'r ysbyty ond roedd wedi marw.
Bydd yn cael ei ddal gan yr heddlu tan ddydd Gwener tra bo swyddogion yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth.
Cymryd 'hunluniau'
Dywedodd ei gyfreithiwr, Evans Monari: "O'r hyn rwy'n ei glywed, roedd hi'n cymryd lluniau, 'hunluniau', wrth i'r gwn gael ei danio."
Ychwanegodd fod y digwyddiad yn ymwneud â phistol, a'i fod wedi ei danio tra roedd Ms Kinuanjui yn nhŷ Mr Alden yn ardal Karen yn Nairobi, yn ei helpu i symud.
"Mae Richard yn dweud nad fe sy'n gyfrifol," meddai Mr Monari. "Fe saethodd y ferch ei hun ar ddamwain."
Dechreuodd yr heddlu ymchwilio i lofruddiaeth yn dilyn adroddiadau fod meddygon yn credu bod Ms Kinyanjui wedi ei thrywannu, a bod rhai o'i bysedd wedi torri.
Honnodd yr heddlu fod Mr Alden a Ms Kinyanjui - oedd yn rhedeg cwmni diogelwch - mewn perthynas â'i gilydd. Mae Mr Alden yn byw yn Nairobi gyda'i wraig, Martine, ac mae ganddo dri o blant.
Roedd Mrs Alden yn Llundain dros y penwythnos ond hedfanodd yn ôl ar gyfer y gwrandawiad.
Does dim cyhuddiadau wedi eu cyflwyno yn yr achos.
Mae disgwyl i ganlyniadau archwiliad post-mortem a phrofion balistig gael eu cyhoeddi ddydd Gwener.