Euro 2016: Ledley, Allen a Robson-Kanu 'yn ffit' medd Coleman
- Cyhoeddwyd

Gallai chwaraewyr Cymru Joe Ledley, Joe Allen a Hal Robson-Kanu fod yn holliach i chwarae yng ngêm agoriadol Cymru yn Euro 2016 ddydd Sadwrn, yn ôl y rheolwr, Chris Coleman.
Fe wnaeth y tri fethu gêm Cymru yn erbyn Sweden ddydd Sul gydag anafiadau, ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i hyfforddi gyda'r garfan.
Torrodd Ledley asgwrn yn ei goes ddechrau Mai, tra bod Allen a Robson-Kanu wedi cael anafiadau'n fwy diweddar.
Owain Llyr oedd yn holi Osian Roberts yn Dinard
Ond dywedodd Coleman ddydd Mawrth: "Fe wnaeth y tri ddod drwy sesiynau ddoe, gyda gweddill y garfan felly mae hynny'n newyddion da.
"Wrth gwrs rydyn ni'n cadw golwg arnyn nhw'n ddyddiol, ond heddiw, mae'r tri yn iawn. Wrth gwrs yn fyr o amser chwarae ond yn gorfforol yn dda iawn ar ôl hyfforddi gyda'r garfan ac rydyn ni'n disgwyl nhw gyda ni 'fory hefyd.
"Os yw'r sefyllfa yn aros yr un peth, bydd y tri ar gael i'r penwythnos."