Dŵr Cymru: Blwyddyn fwyaf llwyddiannus ers 15 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau blynyddol Dŵr Cymru yn dangos eu bod wedi cael eu blwyddyn fwyaf llwyddiannus ers troi'n gwmni di-elw 15 mlynedd yn ôl.
Mae'r cwmni'n dweud bod hyn wedi eu galluogi i ddefnyddio £32m er budd cwsmeriaid y flwyddyn yma.
Dywedodd y cwmni y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ariannol i gwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd i dalu eu biliau a buddsoddi mewn cynlluniau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gadw biliau cwsmeriaid yn isel at y dyfodol.
Bydd gweddill yr arian yn cael ei wario ar dargedu gwelliannau mewn ardaloedd sy'n dioddef problemau gyda'u cyflenwad dŵr yn aml, a helpu ariannu canolfan ymwelwyr yng nghronfa ddŵr Llys y Frân yn Sir Benfro.
Mae'r buddsoddiad yn deillio o fodel perchnogaeth y cwmni, sy'n golygu bod unrhyw elw yn cael ei rannu ymysg cwsmeriaid.
Ychwanegodd Dŵr Cymru y bydd yn ymgynghori â chwsmeriaid dros yr haf am sut y gellir defnyddio unrhyw arian ychwanegol yn y dyfodol.
'Taro cydbwysedd'
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: "Mae ein model perchnogaeth unigryw yn caniatáu i ni ddefnyddio arian a fyddai wedi cael ei dalu i gyfranddeiliaid mewn cwmnïau eraill, er budd ein cwsmeriaid.
"Mae cwsmeriaid wedi dweud wrthym eu bod nhw am ein gweld ni'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng cadw biliau'n isel heddiw, gwella perfformiad lle nad yw'n cyrraedd y safonau y maent yn eu disgwyl, a buddsoddi nawr er mwyn cwtogi ar gostau ar gyfer cwsmeriaid y dyfodol.
"Bydd y £32m o gyllid ychwanegol yn ein helpu ni i daro'r cydbwysedd hwnnw, ac mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod ein cwsmeriaid o blaid hyn o bedwar i un."